2012 Rhif 282 (Cy. 46)

Y gwasanaeth iechyd gwladol, cymru

gofal cymdeithasol, cymru

Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad i gywiro gwall golygu yn Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”).

Mae Rheoliadau 2011 yn gymwys i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol ac yn rhannol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cyfeirir at y rhain fel “awdurdodau dynodedig”. Mae Rheoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru a’r awdurdodau lleol sy’n dod o fewn eu hardaloedd i weithio gyda’i gilydd i lunio a chyhoeddi strategaeth sy’n nodi sut y byddant yn gweithio gyda’i gilydd i helpu a chynnwys gofalwyr yn y trefniadau sy’n cael eu gwneud ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Roedd rheoliad 9(7) o Rheoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau dynodedig i gyhoeddi’u strategaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol i wneud hynny.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu rheoliad 9(7) o Reoliadau 2011 er mwyn osgoi unrhyw oblygiad posibl bod y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r strategaethau yn cael eu trin yn wahanol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gan mai gwneud mân newidiadau i’r Rheoliadau presennol yn unig y maent, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2012 Rhif 282 (Cy. 46)

Y gwasanaeth iechyd gwladol, cymru

gofal cymdeithasol, cymru

Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed                               3 Chwefror 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       7 Chwefror 2012

Yn dod i rym                      29 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(1) a (2) a 10(2) o Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Chwefror 2012.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn yr Atodlen, yn y golofn ar yr ochr dde (Awdurdodau Lleol) yn y testun Cymraeg, gyferbyn â “Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr” yn y golofn ar yr ochr chwith (Bwrdd Iechyd Lleol), ar ôl “Sir y Fflint” mewnosoder “, Gwynedd”.

Dirymu

3. Mae rheoliad 9(7) o Reoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.

 

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

3 Chwefror 2012

 



([1])           2010 mccc 5.

([2])           O.S. 2011/2939 (Cy.315).